cfeb corff addysg ariannol defnyddwyr
Amdanom Ni
Ni yw Corff Addysg Ariannol Defnyddwyr (CFEB) y DU, sy'n gyfrifol am helpu defnyddwyr i ddeall materion ariannol a rheoli eu sefyllfa ariannol yn well.
Mae CFEB yn gorff annibynnol a sefydlwyd gan yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol fel yr oedd yn ofynnol gan Ddeddf Gwasanaethau a Marchnadoedd Ariannol 2000 (fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Gwasanaethau Ariannol 2010).
Ein gweledigaeth
Ein gweledigaeth yw sicrhau bod defnyddwyr yn fwy hyddysg a hyderus a'u bod yn gallu cymryd mwy o gyfrifoldeb am eu materion ariannol a dewis cynhyrchion a gwasanaethau sy'n diwallu eu hanghenion.
Rydym yma i'ch helpu i reoli eich sefyllfa ariannol a gwneud penderfyniadau hyddysg drwy ddarparu gwybodaeth, addysg a chanllawiau diduedd yn rhad ac am ddim. Rydym yn cynnig hyn yn uniongyrchol i chi drwy ein gwasanaeth Moneymadeclear™ ac rydym yn gweithio gyda phartneriaid dibynadwy * i helpu pobl ar yr adeg gywir.
Mae ein holl wybodaeth ac adnoddau ar gael heb fod unrhyw bwysau arnoch i brynu. Rydym yn ddiduedd ac ni fyddwn yn argymell cynhyrchion na chwmnïau penodol, ond gallwn roi'r wybodaeth sydd ei hangen arnoch i'ch helpu i gael gafael ar yr hyn sydd orau i chi.
Os yw eich gwaith yn cynnwys helpu eraill i reoli eu sefyllfa ariannol, bydd ein hystod eang o wybodaeth ac adnoddau am ddim yn eich helpu â'ch gwaith o helpu eraill i achub y blaen a chymryd rheolaeth. Cliciwch yma am ragor o wybodaeth.
Ar gael yn Gymraeg
Mae gennym amrywiaeth o ddeunydd Cymraeg sy'n tyfu wrth i ni ddatblygu.
- mae nifer o'n canllawiau Moneymadeclear argraffedig ar gael yn Gymraeg - gweler y canllawiau argraffedig am ddim.
- Canllaw ar arian i rieni - ar-lein, ac ar bapur, ar gael gan fydwragedd;
- Cynghorwyr arian hyfforddedig - os oes gennych gwestiwn am arian, gallwn ateb eich galwadau yn Gymraeg. Ffoniwch 0300 500 5000.